Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Uwch Swyddog Cymorth ir Gwasanaethau – Swyddfar Crwner

Dyddiad Cau: 21/07/2026

Cyfeirnod: REQ106769

25.9 awr / Cyfnod Penodedig

26,403 - 27,694 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae cyfle wedi codi o fewn Gwasanaeth Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol y Cyngor i Uwch Swyddog Cymorth i’r Gwasanaethau gael ei recriwtio i’r strwythur. Bydd y rôl ran-amser, cyfnod penodol hwn yn darparu swyddogaeth cymorth gweinyddol a bydd yn cynnwys gweithio fel rhan o dîm, o fewn Swyddfa’r Crwner. Mae’n ddyletswydd ar y Crwner i ymchwilio i rai marwolaethau anesboniadwy. 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio yn y swyddfa yng Nghanolfan Rheidol – Aberystwyth ac i weithio oriau cytunedig arnynt ar draws yr wythnos waith. Mae hon yn gwasanaeth prysur a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o fewn amgylchedd gwaith traddodiadol sy’n seiliedig ar bapur yn ogystal ag amgylchedd gwaith digidol modern.

Ynglŷn â’r rôl:

Mae prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys:

  • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Swyddfa’r Crwner ac ymdrin â phob ymholiad e.e. ymholiadau yn ymwneud â chwestau.
  • Cysylltu ag ystod eang o bartïon gan gynnwys teuluoedd mewn profedigaeth; tystion; Swyddogion Profedigaeth Ysbyty; meddygon; labiau patholeg; technegwyr post-mortem; Ymgymerwyr; Cofrestryddion a’r heddlu fel rhan o’r rôl.
  • Delio ag atgyfeiriadau o Ysbyty Bronglais, Meddygfeydd, yr Arholwr Meddygol a’r Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau.
  • I baratoi a gwirio, yn ôl yr angen ymlaen llaw, ystod o ffurflenni wedi’u cwblhau ar gyfer y Crwner, sy’n gofyn am lofnod y Crwner e.e. cofrestru marwolaeth, claddu, neu amlosgi ac ati, gan sicrhau bod y gweithdrefnau statudol cywir yn cael eu dilyn.
  • Cynorthwyo i lunio, cynnal a diweddaru cofrestrau perthnasol a diweddaru dogfennau swyddogol Llys y Crwner yn gywir.
  • Cofnodi, tynnu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth am system rheoli achosion, gan gynnwys marwolaethau yr adroddwyd amdanynt sy’n cael eu cyfeirio gan Swyddogion y Crwner, ynghyd â gwaith papur perthnasol, gan gynnwys adroddiadau marwolaeth sydyn ac atgyfeiriadau gan y Gwasanaeth Arholwr Meddygol.

Ynglŷn â’r ymgeisydd:

Rydym yn chwilio am ymgeisydd a addysgir i NVQ 4 mewn Gweinyddu Busnes neu gyda phrofiad cyfatebol. Bydd profiad o weithio mewn lleoliad gweinyddol hefyd yn hanfodol gan gynnwys sgiliau cymryd cofnodion da a theipio sain. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddelio â sefydliadau allanol ac aelodau o’r cyhoedd a bydd angen i’r unigolyn darparu cymorth a deall pwysigrwydd darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid.  Oherwydd natur y Gwasanaeth, mae’n rhaid i’r unigolyn allu trin gwybodaeth sensitif, cyfrinachol ac a allai beri gofid gyda phroffesiynoldeb ac aeddfedrwydd.

Byddai’r cyfle yn addas i rywun sydd ag ymagwedd drefnus at waith, sylw rhagorol i fanylion a bod ganddynt sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys profiad o reoli cronfeydd data.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag: Anwen Thomas anwen.thomas3@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaethau Democrataidd

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
  • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
  • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
  • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
  • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy