Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Rheoli Adeiladu Wrth Gefn

Dyddiad Cau: 02/08/2026

Cyfeirnod: REQ106809

Achlysurol

39,152 - 40,777 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i gynorthwyo’r Rheolwr i arwain Tîm Rheoli Adeiladau’r Cyngor ar sail contract rhyddhad oriau sero, gyda’r oriau i’w cytuno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.

Gan ffurfio rhan o’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach, sy’n delio â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Rheoleiddio Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig arall, byddai’r deiliad swydd yn chwarae rhan allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ledled y sir.

O ddydd i ddydd, byddwch yn:

  • cynorthwyo i arwain gwasanaeth Rheoli Adeiladu yn effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o ansawdd uchel
  • gorchwylio tîm o Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig a’r staff Pridiannau Tir Lleol
  • bwrw ymlaen â newidiadau deddfwriaethol o ganlyniad i Reoliadau Adeiladu (Cymru) 2024, 2025
  • darparu cymorth i’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach

Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:

  • gyda gradd neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol neu gyda chyfuniad cyfatebol o wybodaeth a phrofiad o Reoli Adeiladu
  • bod yn Arolygydd Adeiladu Cofrestredig Dosbarth 2(a-f) neu uwch
  • gyda’r gallu i gyfathrebu’n ddiduedd, yn broffesiynol ac yn effeithiol gydag ystod eang o bobl ar wahanol lefelau
  • gyda’r gallu i weithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig ac i weithio i ddyddiadau cau tynn
  • gydag ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’r cyhoedd ac ymrwymiad cryf i foddhad cwsmeriaid

Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Sylwch y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd ar ôl ei benodi.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Jeremy Holmes, Prif Swyddog Rheoli Adeiladu neu Geraint Williams, Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Adeiladu, ar Ffôn: 01545 572 482

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy