Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Prynu i Dalu (P2P)

Dyddiad Cau: 16/08/2026

Cyfeirnod: REQ106835

Mewnol yn unig

18.5 awr / Parhaol

25,583 - 25,989 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig ac ysgogol i ymuno a’n tim caffael prysur i gefnogi’r Rheolwr Pryniannau i Taliadau wrth sicrhau bod gan y Cyngor wasanaeth caffael a thaliadau effeithiol ac effeithlon.

Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos hyblygrwydd ac ymroddiad er mwyn bodloni terfynau amser ac amserlenni. Mae dibynadwyedd a’r gallu i wneud tasgau cysylltiedig a chywirdeb gan ddefnyddio systemau electronig yn hanfodol.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni dyletswyddau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Byddai ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael ei gefnogi’n llawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd o benodiad.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch diddordeb, byddwn yn cynnig yn gyfnewid:

  • 27 i 34 diwrnod o ddiwrnodau gwyliau blynyddol y flwyddyn (ynghyd a 8 gwyliau cyhoeddus) Pro Rata
  • amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau Meddygol, Deintyddol a Optegydd
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael
  • ystod o gyfleoedd dysgu a datblygu
  • Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith, Cyfraniadau Pensiwn Gwirfoddol Ychwanegol
  • Mentrau Iechyd a Lles gan gynnwys aelodaeth ddisgowntiedig i’n canolfannau hamdden lleol, darpariaeth gynghori am ddim a chyfrinachol
  • arbedion o ran arddull bywyd a llawer mwy.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch a Gwenan Hughes, 01970633920 / Gwenan.Hughes@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyllid a Chaffael

Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.

Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy