Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Cymorth i Wasanaethau

Dyddiad Cau: 08/09/2026

Cyfeirnod: REQ106843

37 awr / Parhaol

25,583 - 25,989 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae cyfle llawn amser wedi codi yn y Tîm Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer Swyddog Cymorth i Wasanaethau parhaol llawn amser. Mae Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol yn darparu cefnogaeth weinyddol i bob rhan o’r Cyngor ond bydd y rôl hon yn bennaf yn darparu cefnogaeth i’r gwasanaeth Rheoli a Datblygu Asedau, o fewn Uned Twf a Menter y Cyngor Sir, sydd yn ymwneud â defnydd tir ac adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor.

Am y rôl:

Bydd disgwyl i’r Swyddog Cymorth i Wasanaethau gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol sy’n gysylltiedig ag amgylchedd swyddfa prysur, gan gynnwys goruchwylio cyfrifon e-bost; ymateb i alwadau ffôn; ymdrin â gohebiaeth sy’n dod i mewn ac yn mynd allan; trefnu cyfarfodydd; cymryd cofnodion a delio â dyletswyddau gweinyddol sy’n ymwneud â thir ac eiddo i’r cyngor. Bydd hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd fewnbynnu, diweddaru a thynnu gwybodaeth o systemau TG (yn benodol Rheolwr Asedau, Civica Financials a Civica Purchasing); casglu data gan gynnwys gwybodaeth ariannol; cynnal cofnodion y gronfa ddata electronig a, lle bo’n briodol, gofnodion ar y wefan.

Am yr Ymgeisydd:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad yn gweithio mewn lleoliad awdurdod lleol/gweinyddol gydag o leiaf 5 TGAU neu gyfwerth. Byddai’r cyfle yn gweddu i rywun sy’n drefnus, sydd â sylw da i fanylion, lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol, sgiliau cyfathrebu da ac agwedd frwdfrydig a chadarnhaol at waith. Byddai cefndir mewn eiddo yn fantais amlwg.

Mae natur Cymorth Corfforaethol i Wasanaethau yn golygu y bydd angen i’r ymgeisydd fod yn hyblyg ac efallai y bydd gofyniad i gefnogi timau eraill, yn dibynnu ar yr angen. Mae’r swydd yn destun gweithio hybrid a bydd gofyniad i fynychu swyddfeydd y Cyngor i fodloni gofynion y rôl.

Ein cynnig i chi:

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar gael yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Keith Dale – keith.dale@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaethau Democrataidd

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
  • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
  • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
  • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
  • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy