Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cydlynydd – Therapi Galwedigaethol

Dyddiad Cau: 17/11/2026

Cyfeirnod: REQ106965

37 awr / Parhaol

40,444 - 42,123 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Nid oes angen cymhwyster Therapi Galwedigaethol proffesiynol

Allwch chi helpu i lunio dyfodol Therapi Galwedigaethol yng Ngheredigion?

Ydych chi’n frwdfrydig am wella gwasanaethau, helpu timau i weithio’n effeithiol, a throi syniadau da yn realiti?

Oes gennych agwedd gadarnhaol a phenderfynol, ac a ydych yn mwynhau gweithredu, cydlynu prosiectau, cefnogi pobl, datrys problemau a gwneud i bethau ddigwydd?

Os felly, gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i ymuno â’n Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Gydol Oes.

Mae ein Therapyddion Galwedigaethol yn arbenigwyr mewn helpu pobl i fyw bywydau mwy diogel, mwy annibynnol ac ystyrlon. Wrth i’n gwasanaeth barhau i ddatblygu, rydym yn chwilio am Gydlynydd Tîm i ddarparu’r gefnogaeth drefniadol, weithredol a phrosiect sydd ei hangen i ysgogi gwelliant gwasanaeth.

Nid rôl glinigol yw hon ac nid oes angen cymhwyster proffesiynol mewn Therapi Galwedigaethol. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cryf mewn cydlynu, arweinyddiaeth, rheoli prosiectau a rheoli newid, ac sy’n gallu gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr profiadol i helpu i gyflawni newid cadarnhaol i bobl Ceredigion.

Y Cyfle

Mae hon yn rôl newydd o fewn ein Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Gydol Oes. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Tîm, Uwch Therapyddion Galwedigaethol a Chynorthwywyr Therapi Galwedigaethol i gefnogi gweithrediadau dydd i ddydd a gwelliant gwasanaeth tymor hir. Ni fydd unrhyw dau ddiwrnod yr un fath.

Un diwrnod efallai y byddwch yn adolygu gwybodaeth perfformiad, yn cefnogi cydlynu llwythi gwaith ac yn gweithredu menter newydd. Diwrnod arall gallech fod yn hwyluso prosiectau gwella, yn datblygu prosesau, yn cefnogi staff neu’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws Gwasanaethau Tymor Byr wedi’u Targedu (GTBT) i wella’r ffordd mae gwasanaethau’n cydweithio.

Mae hon yn rôl amlwg iawn gyda dylanwad gwirioneddol a’r cyfle i wneud cyfraniad parhaol at wasanaethau Therapi Galwedigaethol yng Ngheredigion.

Pwrpas y Rôl

Byddwch yn:

  • Cydlynu gweithgareddau gweithredol ar draws y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.
  • Darparu rheolaeth llinell sefydliadol a goruchwyliaeth anghlinigol i Gynorthwywyr Therapi Galwedigaethol.
  • Cefnogi cynllunio, blaenoriaethu a chydlynu adnoddau.
  • Arwain a chefnogi prosiectau gwella gwasanaeth.
  • Helpu i gynllunio, gweithredu ac ymgorffori ffyrdd newydd o weithio.
  • Dadansoddi a monitro gwybodaeth perfformiad i gefnogi penderfyniadau.
  • Cefnogi cyfathrebu ac ymgysylltu ynglŷn â mentrau newid.
  • Gweithio’n gydweithredol gyda chydweithwyr ar draws Therapi Galwedigaethol, GTBT a gwasanaethau ehangach y Cyngor.
  • Helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu’n effeithlon, yn effeithiol ac yn gynaliadwy.

Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Rydym yn angerddol am helpu pobl i fyw bywydau annibynnol ac ystyrlon.

Mae ein Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol O Bob Oed yn cefnogi plant, oedolion a phobl hŷn ledled Ceredigion. Rydym yn adnabyddus am ein diwylliant cefnogol, ein dull cydweithredol a’n hymrwymiad i welliant parhaus.

Rydym yn credu bod gwasanaethau gwych yn cael eu hadeiladu drwy gydweithio. Mae ein Therapyddion Galwedigaethol yn darparu arbenigedd clinigol arbenigol, tra bod y rôl hon yn darparu’r sgiliau cydlynu a gwella sy’n helpu i wneud y defnydd gorau o’r arbenigedd hwnnw.

Yn sefydliadol, rydym yn rhan o Wasanaethau Tymor Byr wedi’u Targedu (GTBT), gan weithio’n agos gyda:

  • Gwasanaethau Gofal a Thechnoleg a galluogir gan Dechnoleg a’r Gwasanaeth Synhwyraidd
  • Gwasanaethau Cyfarpar Integredig
  • Taliadau Uniongyrchol
  • Gwasanaethau Gofal a Galluogi wedi’u Targedu

Gyda’i gilydd, mae’r gwasanaethau hyn yn hyrwyddo annibyniaeth, llesiant ac atal ledled Ceredigion.

Pwy Rydym yn Chwilio Amdano

Nid oes angen i chi fod yn Therapydd Galwedigaethol.

Mae gennym ddiddordeb mewn pobl sy’n medru dangos profiad mewn meysydd megis:

  • Rheoli prosiectau
  • Gwella gwasanaethau
  • Cydlynu gweithredol
  • Monitro perfformiad
  • Rheoli newid
  • Arwain timau a goruchwylio staff
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Datblygu systemau a phrosesau effeithiol

Yn bwysicaf oll, byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl, yn cael eich ysgogi gan newid cadarnhaol ac eisiau gwneud gwahaniaeth.

Pam Ymuno â Ni?

  • Cyfle unigryw i helpu lunio dyfodol gwasanaethau Therapi Galwedigaethol yng Ngheredigion.
  • Gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr a rheolwyr profiadol ac angerddol.
  • Dylanwadu ar ddatblygiad a gwelliant gwasanaethau ystyrlon.
  • Cydweithio ar fentrau ehangach ar draws GTBT a Chyngor Sir Ceredigion.
  • Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid.
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol.
  • Cydweithwyr cefnogol a blaengar.
  • Y cyfle i gyfrannu at wasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd ac yn gyffrous am y cyfle i helpu i adeiladu rhywbeth ystyrlon a dylanwadol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y cyfle hwn, cysylltwch â: Steve Elliott, Rheolwr Tîm Therapi Galwedigaethol trwy ebost: Steven.Elliott@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

  • Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig
  • Tîm Asesu Integredig
  • Tîm Dyletswydd Brys
Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr
  • Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
  • Tîm Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC)
  • Gofal Integredig Targedig a Galluogi
  • Gofal a Galluogir gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd
  • Therapi Galwedigaethol

Gwasanaethau Uniongyrchol

  • Tîm Gwasanaethau Gofal Dyddiol
  • Timau Gofal Preswyl
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy