Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweinyddydd Cymorth ir Gwasanaethau

Dyddiad Cau: 24/11/2026

Cyfeirnod: REQ106971

37 awr / Parhaol

26,016 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Fel rhan o swyddogaeth Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol y Cyngor, mae cyfle wedi codi i benodi rôl Gweinyddydd Cymorth i’r Gwasanaethau o fewn y strwythur. Mae Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol yn darparu cymorth gweinyddol ar draws pob maes Gwasanaeth o fewn y Cyngor. Bydd angen y rôl hon i ddarparu swyddogaeth cymorth gweinyddol ystwyth ar draws y canolfannau Gwasanaeth Dydd Arbenigol sydd wedi’u lleoli yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi. 

Mae Gwasanaethau Dydd Ceredigion yn rhan o’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol i oedolion, gan ddarparu gofal a chymorth yn ystod y dydd i oedolion ag anghenion gofal a chymorth. Mae’r gwasanaeth yn cyfrannu at gynnal annibyniaeth unigolion ac yn darparu mynediad at gymorth a gweithgareddau cymdeithasol priodol. Mae cymorth gweinyddol yn helpu i ategu gweithrediad effeithiol y ddarpariaeth hon o ddydd i ddydd. 

Ynglŷn â’r rôl: 

Bydd prif gyfrifoldebau’r rôl yn cynnwys: 

  • Rheoli gohebiaeth sy’n dod i mewn ac allan, gan gynnwys e-bost, ffôn a chyfathrebiadau ysgrifenedig, a goruchwylio cyfrifon e-byst, gan sicrhau bod ymholiadau’n cael eu trin a’u cyfeirio’n briodol. 
  • Cadw cofnodion cyfredol o ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys ffeilio a chreu ffeiliau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth newydd. 
  • Prosesu ymholiadau sy’n ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth newydd a phresennol. 
  • Cynnal cofnodion cronfa ddata electronig a mewnbynnu ac echdynnu gwybodaeth o systemau TG.  
  • Ymgymryd â dyletswyddau archifo yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor. 
  • Cofnodi cyfarfodydd staff yn ôl yr angen. 
  • Delio â gohebiaeth ar gyfer y gwasanaeth a chadw rhestrau cyswllt yn gyfredol. 
  • Darparu cymorth ar y broses archebu prynu ar gyfer y gwasanaeth. 

                Ynglŷn â’r Ymgeisydd: 

                Rydym yn chwilio am berson sy’n broffesiynol, yn hygyrch ac yn hyblyg, gyda’r gallu i gynnal cywirdeb a chyfrinachedd tra’n darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol dibynadwy ac ymatebol mewn amgylchedd canolfan ddydd sy’n canolbwyntio ar y person. Rhaid i chi fod â chymwysterau priodol gyda 5 TGAU neu gyfwerth, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch. Bydd angen sgiliau gweinyddol a TG cryf arnoch, ynghyd â dull trefnus at waith a sylw rhagorol i fanylion. 

                Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel mewn amgylchedd gwasanaeth dydd prysur. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth reoli llwyth gwaith amrywiol, blaenoriaethu gofynion cystadleuol a sicrhau bod gwybodaeth, cofnodion, gohebiaeth a phrosesau gweinyddol yn cael eu trin yn gywir ac o fewn amserlenni gofynnol. 

                Bydd sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol yn bwysig. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu. Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus felly fod yn gyfforddus yn gweithio mewn amgylchedd gwasanaeth lle gall unigolion sy’n cael mynediad at gymorth, eu teuluoedd, ymwelwyr a gweithwyr proffesiynol fod yn rhan o’u cyswllt o ddydd i ddydd. Byddai profiad blaenorol mewn gofal, gofal cymdeithasol, gwasanaeth dydd neu amgylchedd cymorth tebyg yn fuddiol ond nid yn orfodol. 

                Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio’n hyblyg o wahanol leoliadau Gwasanaeth Dydd Arbenigol, o leiaf tri diwrnod yr wythnos, yn benodol yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi, i sicrhau bod anghenion gwasanaeth yn cael eu diwallu. Gall hyn weithiau fod ar fyr rybudd. Bydd cyfleoedd hefyd i weithio gartref. 

                Ein cynnig i chi: 
                Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni. 

                Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fudd-daliadau i gyflogeion, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.

                Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

                • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
                • Flexi-time: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

                Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.

                Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

                Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

                Cysylltwch â ni

                I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Neil Constable, Arweinydd Tîm – Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol – neil.constable2@ceredigion.gov.uk     

                Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

                Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

                Yr hyn a gynigwn

                Cydbwysedd bywyd a gwaith

                Cynllun cynilo ffordd o fyw

                Cynllun pensiwn cyflogwr hael

                Cynllun beicio i'r gwaith

                Dysgu a datblygu

                Lle byddwch yn gweithio

                Gwasanaethau Democrataidd

                Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

                • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
                • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
                • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
                • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
                • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
                • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
                Penmorfa
                Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
                Darllen mwy
                Aberaeron
                Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
                Darllen mwy