Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 02/12/2026
Cyfeirnod: REQ106979
37 awr / Parhaol
32,578 - 34,811 *
Penmorfa, Aberaeron
SYLWERWCH – Cytundeb tymor ysgol yn unig yw hwn.
Ydych chi’n angerddol am gefnogi plant a phobl ifanc i oresgyn rhwystrau a chyrraedd ei’n potensial llawn?
Rydym yn chwilio am Fentor Sgiliau ymroddedig, gyda empathi a thosturiol i ymuno â’n Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyrhaeddiad, gan weithio gyda dysgwyr niwed a heriol yn ysgolion Ceredigion i adeiladu profiadau addysgol.
Mae hwn yn gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifanc sy’n profi anawsterau gyda rheoleiddio emosiynol, rhyngweithio cymdeithasol, a heriau ymddygiadol. Fel Mentor Sgiliau, byddwch yn oedolyn cyson a diogel yn eu bywydau pobol ifanc, rhywun ymddiried, cefnogol a rhywun I dibynnu arno. Byddwch yn gweithio’n agos gydag ysgolion, teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu cefnogaeth wedi’i theilwra sy’n hyrwyddo ymgysylltiad, lles, a chyrhaeddiad addysgol.
Bydd eich rôl yn cynnwys perthnasoedd cryf a pharchus gyda dysgwyr, staff yr Ysgol a phartneriaid, gan ddefnyddio dulliau creadigol sy’n seiliedig ar drawma i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Byddwch yn eu cefnogi i reoli eu hemosiynau, gwella eu hyder cymdeithasol, a llywio’r heriau y maent yn eu hwynebu yn yr ysgol. Drwy fod yn bresennol, yn amyneddgar, ac yn barhaus, byddwch yn helpu i ddatgloi eu potensial ac agor drwsiau newydd ar gyfer eu dyfodol.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n empathetig ac yn ymrwymedig i gynhwysiant. Bydd angen profiad arnoch o weithio gyda phlant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai ag anghenion cymhleth, a bod yn hyderus wrth gefnogi ymddygiad yn gadarnhaol ac yn adeiladol. Byddwch hefyd yn gyfathrebwr cryf ac yn chwaraewr tîm, yn gallu gweithio’n hyblyg ar draws gwahanol leoliadau ac adeiladu partneriaethau effeithiol.
Yn gyfnewid, byddwch yn rhan o dîm cefnogol a blaengar, gyda mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus. Yn bwysicaf oll, byddwch yn rhan o wasanaeth sy’n rhoi ymarfer perthynas, lles, a thegwch wrth wraidd popeth a wnawn.
Os ydych chi’n credu bod pob plentyn yn haeddu oedolyn diogel sy’n gweld ei botensial ac yn ei helpu i dyfu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Gwnewch gais nawr a helpwch ni i gefnogi plant a phobl ifanc i ffynnu.
Ein cynnig i chi:
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fudd-daliadau i gyflogeion, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rheolwr tîm y gwasanaeth Ymgysylltu a Chyrhaeddiad, David Jones, dros y ffôn ar 07812487807 neu drwy e-bost ar David.jones@ceredigion.gov.uk;
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: