Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Cymorth i Wasanaethau

Dyddiad Cau: 08/12/2026

Cyfeirnod: REQ106988

37 awr / Parhaol

26,427 - 26,847 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae cyfle cyffrous wedi codi i recriwtio Swyddog Cymorth i Wasanaethau i strwythur Cymorth Gwasanaeth Corfforaethol ar sail amser llawn, barhaol i gefnogi ardal gwasanaeth Porth Gofal.

Ynglŷn â’r Rôl:

Bydd y Swyddog Cymorth i Wasanaethau yn aelod o’r tîm Taliadau Uniongyrchol, sy’n cefnogi unigolion i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros sut y caiff eu hanghenion gofal a chymorth eu diwallu. Bydd y rôl yn darparu ystod amrywiol o gymorth gweinyddol i’r tîm ac yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n esmwyth ac yn effeithlon.

Gweler hefyd: Taliadau Uniongyrchol – Cyngor Sir Ceredigion

Mae hon yn rôl weinyddol amrywiol o fewn tîm Taliadau Uniongyrchol prysur, lle nad oes dau ddiwrnod yn union yr un fath. Byddwch yn darparu cymorth hanfodol i’r tîm, gan gynnwys delio ag ymholiadau dros y ffôn, cynnal cofnodion a thaenlenni, diweddaru systemau TG, rheoli gohebiaeth a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd.

Byddwch hefyd yn cefnogi amrywiaeth o brosesau Taliadau Uniongyrchol, gan gynnwys adolygiadau, adnewyddu Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr a thasgau sy’n ymwneud â Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC), yn ogystal â monitro sianeli cyfathrebu a rennir a chynorthwyo ag anghenion gweinyddol ehangach y tîm.

Ynglŷn â’r Ymgeisydd:

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar isafswm lefel o 5 TGAU neu gyfwerth, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch. Bydd angen i’r ymgeisydd fod yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, a deall pwysigrwydd darparu gwasanaeth cwsmeriaid da i randdeiliaid mewnol ac allanol.

Mae’r rhinweddau canlynol sy’n ofynnol ar gyfer y swydd yn cynnwys:

  • Y gallu i weithio o fewn timau amlddisgyblaethol.
  • Y gallu i weithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser.
  • Y gallu i ddadansoddi effaith problemau a blaenoriaethu.
  • Sgiliau rhifol a dadansoddol da.
  • Dealltwriaeth o ddiogelwch data a sut mae hynny’n berthnasol i ddatgeliadau data.
  • Rhaid gallu trin gwybodaeth sensitif gyda phroffesiynoldeb ac aeddfedrwydd.
  • Gweithio gyda staff ar bob lefel ar draws yr awdurdod.
  • Sgiliau gofal cwsmer da; diplomyddiaeth, tact a’r gallu i ddatrys gwrthdaro.

Ar adegau, efallai y bydd y rôl yn cefnogi gwasanaethau eraill o fewn y model Llesiant Gydol Oes, felly bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.

Ein cynnig i chi: 
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni. 

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fudd-daliadau i gyflogeion, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa. Oherwydd natur y rôl, bydd angen i chi deithio o fewn Ceredigion yn rheolaidd.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Anwen Thomas, Anwen.Thomas3@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaethau Democrataidd

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
  • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
  • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
  • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
  • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy