Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 07/10/2024
Cyfeirnod: REQ105325
37 awr / Parhaol
40,221 - 42,403 *
Penmorfa, Aberaeron
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.
Rydym ni’n chwilio am Uwch Beiriannydd Strwythurol i arwain y Tîm Dylunio Asedau a Strwythurau o dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr Dylunio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu llwyth gwaith y tîm ac yn darparu arbenigedd i’r Gwasanaeth ym maes Strwythurau Peirianneg Sifil a Chynnal a Chadw Asedau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd berthnasol a/neu yn aelod Corfforedig o Sefydliad Proffesiynol perthnasol gan feddu ar brofiad amlwg mewn dylunio dur, concret, coed a gwaith maen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar o leiaf 3 blynedd o brofiad yn y broses Dylunio Peirianyddol Strwythurol neu’n medru profi gwaith ym maes rheoli a rheoli ariannol (hyd at £2m) o ran cynlluniau adeiladu mawr a bach.
Yn ogystal â’r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o’i benodi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond ar ben hynny, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd Manyleb Person
Os dymunwch fod angen unrhyw wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch ag Owen Stephens: Owen.Stephens@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy’n cael ei gadw’n dda, a hyder yn ein heconomi leol.