Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Tîm Llety Diogel i Blant

Dyddiad Cau: 03/06/2026

Cyfeirnod: REQ106662

37 awr / Parhaol

26,403 - 27,694 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Lefel 2 – Gofal a Chymorth o fewn ein darpariaeth Llety Diogel i Blant yng Ngheredigion.   Bydd y rôl hon yn gweithio ar rota ar gyfer sifftiau dydd a nos gan gefnogi anghenion y gwasanaeth. Bydd y rolau hyn yn rhan hanfodol o dîm ehangach gan gynnwys Rheolwr Cofrestredig, Rheolwr Cynorthwyol a Lefel 3 – Gofal a Chymorth.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros hybu dull gweithredu o safbwynt arferion sy’n canolbwyntio ar y plentyn, bydd ganddo hanes cadarn o ran ei yrfa mewn gofal preswyl plant neu ddarpariaeth gofal a chymorth tebyg.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion fel gweithiwr i chi gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, cymorth cynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles, a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn.  Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol eich rôl ond yn ogystal, byddwn yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Tra ein bod yn chwilio am Unigolion gyda rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau Cymraeg yn cael cynnig gwersi wedi’u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl cael eu penodi.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Susan DaviesSusie.Davies@ceredigion.gov.uk  

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

  • Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig
  • Tîm Asesu Integredig
  • Tîm Dyletswydd Brys
Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr
  • Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
  • Tîm Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC)
  • Gofal Integredig Targedig a Galluogi
  • Gofal a Galluogir gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd
  • Therapi Galwedigaethol

Gwasanaethau Uniongyrchol

  • Tîm Gwasanaethau Gofal Dyddiol
  • Timau Gofal Preswyl
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy