Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 17/07/2026
Cyfeirnod: REQ106748
37 awr / Parhaol
31,537 - 33,699 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn awyddus i recriwtio Mentor Cymorth Cyflogadwyedd i ymuno â’n gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.
Ynglŷn â’r rôl
Mae’r rôl hon yn hanfodol i gefnogi’r ddarpariaeth gyflogadwyedd wedi’i thargedu ar gyfer trigolion Ceredigion sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.
Bydd deiliad y swydd yn darparu mentora dwys, sy’n canolbwyntio ar y person, gan alluogi unigolion i gael mynediad at gyfleoedd, datblygu sgiliau, a chynnal cyflogaeth.
Drwy gydweithio’n effeithiol â sefydliadau statudol a’r trydydd sector, bydd y rôl yn sicrhau cymorth cydgysylltiedig o ansawdd uchel, gan gyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni allbynnau’r rhaglen a chanlyniadau cyflogaeth hirdymor.
Ynglŷn â’r ymgeisydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac empathetig gyda sgiliau rhyngbersonol cryf a’r gallu i gefnogi ac annog eraill i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Byddwch yn dangos agwedd ddiduedd, ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant, a’r gallu i weithio’n annibynnol yn ogystal ag fel rhan o dîm.
Mae sgiliau trefnu a rheoli amser cryf yn hanfodol. Mae trwydded yrru lawn a chyfredol a mynediad at gerbyd yn ofynnol, gan fod y rôl yn cynnwys teithio ar draws y sir. Mae profiad blaenorol yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion gyda’r gwerthoedd a’r potensial cywir, a darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl ac nid yn unig byddwn yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni..
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon ffoniwch Alison Newby ar 07805 760467 neu e-bostiwch alison.newby@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: