Ffordd o fyw

Mae ein Sir yn cael ei chydnabod fel un o’r “llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio” ynddo, ac mae’n gymysgedd hyfryd o gymunedau dwyieithog a chyfeillgar, diwylliant bywiog, arfordiroedd prydferth a chefn gwlad bryniog. Beth arall allech chi ofyn amdano?

Traethau

Gyda bron i 100km o arfordir mae gennym nifer o draethau, ac mae 5 ohonynt yn draethau baner las.

Diwylliant

Fe welwch bod diwylliant llewyrchus i’w gael yma yng Ngheredigion, sy’n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, theatrau a sinemâu mawr a bach, orielau ac amgueddfeydd.

Ysgolion Ardderchog

Mae gennym gyfanswm o 46 o ysgolion yng Ngheredigion, 39 ysgol cynradd, 4 ysgol gyfun, un ysgol 3-16 a 2 ysgol 3-19. Mae ein hysgolion yn rhai o’r gorau yng Nghymru.

Cyrsiau Golff

Awydd gêm o golff? Mae gennym 10 cwrs golff ar draws y Sir.

Lle gwych i fod

Rydym yn falch o allu adrodd bod 90% o ymwelwyr â’r Sir yn fodlon â’u hymweliad.

Lleoedd Hanesyddol

Os mai hanes sy’n mynd â’ch bryd, yna mae llawer i’w archwilio yng Ngheredigion, gan gynnwys safleoedd archeolegol, mwyngloddiau, cestyll a mwy.

Ysbytai

Mae gennym ysbyty cyffredinol yn Aberystwyth yn ogystal â 4 ysbyty cymunedol ar draws y Sir.

Prisiau Tai

£251,955 yw pris tŷ ar gyfartaledd yn y sir.

Y Gyfradd Droseddu Isaf

Ym Medi 2023 adroddodd Heddlu Dyfed Powys y cyfraddau troseddu isaf yng Nghymru

Gwarchodfeydd Natur

Mae 18 gwarchodfa natur yn y Sir.

Llefydd i fwyta

Os ydych chi’n hoff o fwyd da, yna byddwch wrth eich bodd gyda’r dewis sydd i’w gael yng Ngheredigion.

Prifysgolion a Cholegau

Mae Ceredigion yn gartref i ddwy Brifysgol ynghyd â choleg addysg bellach.

Bwyd a Diod

...

Traethau

...

Cefn gwlad

...

Mynyddoedd

...

Afonydd

...

Chwaraeon dŵr

...