Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 08/05/2024
Cyfeirnod: REQ105294
Mewnol yn unig
37 awr / Parhaol
29,269 - 31,364 *
Llanbedr Pont Steffan
Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda Thîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal Ceredigion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am lunio, datblygu a chydlynu ystod o ddulliau blaengar mewn Gwaith Ieuenctid ac Atal ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed mewn cymuned benodol ac ar hyd a lled Ceredigion.
Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys: cefnogi rhaglenni gweithgareddau strwythuredig, rhoi cefnogaeth ôl-16 h.y. ymgysylltu â’r rhai sydd mewn perygl o ddod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), rhoi cefnogaeth wedi’i lleoli mewn Canolfan h.y. Clwb/Canolfan Ieuenctid a darpariaethau galw heibio, gwaith ieuenctid datgysylltiedig/symudol, allgymorth ac mewn lleoliadau dros dro.
Bydd gan y Swyddog Prosiectau Gweithgareddau Strwythuredig gyfrifoldeb dros gynllunio, cydlynu a chyflenwi ymyraethau a chefnogaeth yn y gymuned. Bydd ganddo hefyd gyfrifoldeb dros gefnogi strategaeth y Gwasanaeth Ieuenctid wrth gyflenwi darpariaethau mynediad agored a thargededig cadarn gan gynnwys gwaith ieuenctid wedi’i leoli mewn Canolfan a rhaglenni gwyliau ar hyd a lled y sir ac mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid gwirfoddol a statudol allweddol.
Bydd gofyn i chi yrru bysiau mini (8-16 sedd) a bydd rhaid i chi fod yn barod i ymgymryd â’r hyfforddiant perthnasol i wneud hyn ynghyd â dal trwydded yrru lawn y DU am o leiaf 2 flynedd.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwch â ni
Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Gwenllian Morris ar 07974023898 neu gwenllian.morris@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: