Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Gweithrediadau mewn Canolfan Les

Dyddiad Cau: 09/05/2024

Cyfeirnod: REQ105297

Achlysurol

22,737 *

Aberteifi

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych i apwyntio 2 x Cynorthwyydd Gweithrediadau Achlysurol yng Nghanolfan Hamdden Teifi.

Fel prif wasanaeth y Cyngor Sir o ran darpariaeth chwaraeon a hamdden byddwch yn gweithio yn agos gyda’r tim rheoli er mwyn darparu cyfleon i unigolion y Sir er mwyn gwella iechyd a lles ein trigolion.

Mae’r gwasanaeth yn cychwyn ar daith gyffrous wrth i ni trawsnewid i Canolfannau Lles, felly os oes gennych y sgiliau a’r awydd i fod yn rhan o’r daith yma byddem yn croesawi derbyn cais gennych.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn:

  • Cynorthwyo i ddarparu rhaglen o weithgareddau corfforol amrywiol, gyda’r nod cyffredinol o gyfrannu at wella iechyd a llesiant trigolion Ceredigion
  • Cynorthwyo i redeg cyfleusterau’r Cyngor o ddydd i ddydd, er mwyn sicrhau bod y trigolion yn derbyn gwasanaeth o ansawdd ac y bydd y cwsmeriaid yn fodlon iawn
  • Bod yn aelod o dîm Gwasanaeth y Canolfannau Lles sy’n sicrhau bod y trigolion sy’n ymweld â Chanolfan Les yn derbyn gwasanaeth croesawgar, effeithlon ac effeithiol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Am drafodaeth anffurfiol ynglwn â’r rôl cysylltwch â Rhidian Harries e-bost: Rhidian.Harries@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: