Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 13/05/2026
Cyfeirnod: REQ106616
Achlysurol
26,403 - 27,694 *
Llanbedr Pont Steffan
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a brwdfrydig sydd yn awyddus i weithio fel rhan o dim sydd yn darparu profiad gwych i bawb sydd yn ymweld a’n cyfleusterau hamdden.
Fel Hyfforddwr/aig Gweithgrwch Corfforol yng Nghanolfan Lles Llambed byddwch yn arwain ar ein rhaglen ddosbarthiadau, sesiynnau ymsefydlu’r ystafelloedd ffitrwydd, darparu hyfforddiant personol, rhaglenni gwyliau a’r cynllun Fit4Life. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n frwdfrydig i weld datblygiad a cynnydd unigolion ynghyd a sicrhau fod gan pawb gyfle i gyrraedd ei lawn botensial.
Fel cyngor rydym yn dechrau ar siwrnai gyffrous lle bydd nifer o’n Canolfannau Hamdden yn trawsnewid i fod yn Ganolfannau Llesiant, a bydd y rôl yma yn darparu cyfle gwych i fod yn rhan o’r daith wrth i ni gyfrannu tuag at hyrwyddo iechyd a lles ein dinasyddion.
Fel Hyfforddwr/aig Gweithgarwch Corfforol bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gynorthwyo’r rheolwr i ddarparu gwasnaeth effeithiol ac effeithlon, ac o ddydd i ddydd byddwch yn:
Mae’r Cyngor wedi ymrwyo i ddarparu gwasanaeth ddwyeithog i’n cwsmeriaid felly byddai lefel dda o gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd yma. Oherwydd ein oriau agor a natur y swydd bydd angen i chi weithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau ar rota.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwyo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rol hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen a’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr I’w gweld yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch a Rhidian Harries ar Rhidian.harries@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: