Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog ar Ddyletswydd Ochr Sych

Dyddiad Cau: 02/06/2026

Cyfeirnod: REQ106654

37 awr / Parhaol

26,403 - 27,694 *

Llanbedr Pont Steffan

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu penodi Swyddog ar Ddyletswydd Ochr Sych llawn amser 37 awr yng Nghanolfan Lles Llambed.

Fel prif wasanaeth y Cyngor Sir o ran darpariaeth chwaraeon a hamdden byddwch yn gweithio yn agos gyda’r tim rheoli er mwyn darparu cyfleon i unigolion y Sir er mwyn gwella iechyd a lles ein trigolion.

Mae’r gwasanaeth yn cychwyn ar daith gyffrous wrth i ni trawsnewid i Canolfannau Lles, felly os oes gennych y sgiliau a’r awydd i fod yn rhan o’r daith yma byddem yn croesawi derbyn cais gennych.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn:

  • Agor a chau’r adeiladau, gweithredu’r ganolfan o ddydd i ddydd yn absenoldeb Rheolwr y Tîm a’r Cydlynydd a bod yn gyfrifol am ddiogelwch y safle.
  • Goruchwylio a chyfarwyddo’r Achubwyr Bywyd / Cynorthwywyr Gweithredu a staff eraill yn y cyfleuster a sicrhau bod adnoddau’r cyngor yn cael eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithlon.
  • Helpu i ddatblygu a gweithredu’r holl ddeddfwriaethau ac arferion Iechyd a diogelwch lle bo hynny’n briodol.
  • Gallu cynorthwyo dinasyddion o bob oed; ymateb i’w hymholiadau a’u pryderon a sicrhau bod ganddynt fynediad at y wybodaeth ddiweddaraf.
  • Helpu i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol o ansawdd uchel i bob cwsmer a darpar gwsmeriaid.
  • Cynorthwyo gyda darparu gwersi nofio a dosbarthiadau eraill yn ôl yr angen.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r rôl cysylltwch â Rhidian Harries e-bost: Rhidian.Harries@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: