Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

4 x Gweithiwr Cymdeithasol – Gofal wedi’i Gynllunio (Arbenigedd Plant)

Dyddiad Cau: 12/05/2024

Cyfeirnod: REQ105008

37 awr / Parhaol

33,024 - 38,223 *

O fewn Ceredigion

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd isod.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i’w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw mae’n ei chynnig cliciwch yma.

Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig sy’n chwilio am gyfle i weithio yng nghefn gwlad hyfryd, heddychlon Gorllewin Cymru ar gyfer awdurdod lleol sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n darparu cefnogaeth dda i’w staff?

Mae gennym gyfleoedd yng Ngheredigion i weithiwr cymdeithasol cymwys i weithio gydag phlant a teuluoedd sydd angen cynlluniau gofal a chymorth  o dan Rhan 4 a 6 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i ddull Arwyddion Diogelwch ac mae wrthi’n trawsnewidio i fodel gydol oed a theulu cyfan fydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i ddiwallu anghenion ac mae hyn wedi arwain at cyfleodd cyffrous ar gyfer cydweithredu gyda adrannau tu fewn yr awdurdod yn ogystal a’n hasiantaethau partner.

Bydd hefyd cyfleodd i arbenigo ym maes eich dewis.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd a rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith Gymraeg gofynnol yn cael cefnogaeth i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 flynedd i’r penodiad.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â’r swydd hon cywsylltwch â Fiona Nicholls ar Fiona.Nicholls@ceredigion.gov.uk

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gymhwyso)

Cwrdd â’r Tîm

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn oedolion mewn perygl a phlant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi oedolion mewn perygl, plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod eu hawl i gael eu diogelu a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd arnom angen Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt cyn penodi i’r swydd hon.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cynnal – Gwasanaethau Arbenigol

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw: