Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

Dyddiad Cau: 10/05/2024

Cyfeirnod: REQ105272

3.5 awr / Cyfnod Penodedig

26,421 - 28,282 *

Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae hon yn swydd cyfnod penodol tan 31/3/25 yn y lle cyntaf.

Lleoliad: Clwb Ieuenctid Aberaeron

Bydd gan ddeiliad y swydd hon gyfrifoldeb i ddylunio a datblygu ystod o ddulliau arloesol yn ymwneud â Gwaith Ieuenctid, gyda’r nod o ennyn pobl ifanc ledled Ceredigion i fanteisio ar gyfleoedd, gweithgareddau a dysgu achrededig. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu dulliau sy’n briodol i anghenion y bobl ifanc er mwyn gwella’u datblygiad personol, cymdeithasol, addysgol a gwleidyddol wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion.

At hynny, bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu ymyriadau cynhaliol ac ataliol ar gyfer pobl ifanc (11-25 oed) sydd mewn perygl o beidio ag ennill cymwysterau cydnabyddedig pan fyddant yn 16 oed a/neu ymuno â’r garfan nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Gall y gorchwylion hyn gael eu cyflawni o fewn Clwb Ieuenctid neu gyd-destunau cymunedol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Gwenllian Morris ar 07974023898 neu Gwenllian.Morris@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:

Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy