Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Cefnogi Rhianta

Dyddiad Cau: 09/05/2024

Cyfeirnod: REQ105293

22.2 awr / Cyfnod Penodedig

29,269 - 31,364 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn awyddus i benodi unigolyn deinamig a brwdfrydig i ddarparu a chyflwyno pecynnau cymorth pwrpasol i rieni/neiniau a theidiau/gofalwyr sydd wedi’u cyfeirio at y prosiect gan yr heddlu er mwyn galluogi teuluoedd i ddod yn hyderus, meithringar, gwydn a diogel.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddatblygu yn unol â Deddf Plant 2020 ac Adran 1 (diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) a ddaw i rym ar 21 Mawrth 2022. Nod y prosiect yw amddiffyn hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Erthygl 19 Hawl y Plentyn (CCUHP) Canlyniad bwriadedig Deddf Plant 2020 yw codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i rieni ar gyfer gostyngiad pellach a goddefgarwch o gosb gorfforol.

Bydd y prosiect yn gyfrifol am gydlynu a darparu pecynnau cymorth pwrpasol i rieni sydd wedi cael eu cyfeirio at y prosiect gan yr Heddlu fel dewis amgen i erlyn drwy’r llysoedd, derbyn a phrosesu atgyfeiriadau gan yr Heddlu, cydgysylltu gwasanaethau cymorth i deuluoedd lle gweithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, gyda’r nod o leihau aildroseddu a hyrwyddo hawliau’r plentyn yn unol â CCUHP (Erthygl 19) er mwyn adeiladu teuluoedd a chymunedau cryfach a mwy gwydn. 

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mari Jefferis ar 07971951593 / Mari.Jefferis@ceredigion.gov.uk 

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:

Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy