Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Tai – Opsiynau Tai

Dyddiad Cau: 03/11/2026

Cyfeirnod: REQ106941

37 awr / Parhaol

32,578 - 34,811 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym am recriwtio Swyddog Tai – Opsiynau Tai (Llety Brys a’r Sector Rhentu Preifat) i ymuno â’n Gwasanaeth Tai ar gytundeb parhaol, amser llawn.

Ymdrin ag ystod amrywiol o sefyllfaoedd a phroblemau cymhleth yn unol â gofynion statudol Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Cymryd camau priodol i atal neu i leddfu digartrefedd, a llunio atebion ymarferol drwy ddarparu ymyriadau amserol, cyngor cynhwysfawr am dai, gwybodaeth, ac eiriolaeth.

Pan nad oes modd atal rhywun rhag bod yn ddigartref, ymchwilio i geisiadau digartrefedd a phenderfynu yn eu cylch yn unol â’r ddeddfwriaeth, gan ystyried y gyfraith achosion berthnasol.

O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • Cydweithio â defnyddwyr gwasanaeth sydd mewn argyfwng i ddarparu cefnogaeth, cyngor a chymorth pwrpasol i’w hatal rhag bod yn ddigartref, a hynny o ran ystod o faterion
  • Penderfynu a yw defnyddwyr gwasanaeth yn gymwys yn unol â Deddf Tai 2014
  • Asesu anghenion tai a chymorth defnyddwyr y gwasanaeth, a phenderfynu yn eu cylch
  • Pennu a threfnu llety dros dro addas ar y cyd â’r Swyddog Tai – Llety Dros Dro

Rydym am recriwtio unigolyn:

  • O leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio mewn amgylchedd tebyg / gyda grŵp tebyg o gleientiaid, ynghyd â phrofiad a gwybodaeth ddigonol am ddigartrefedd / dewisiadau tai.
  • Gallu meithrin perthynas waith effeithiol â phobl yn y gwasanaeth a thu hwnt.
  • Gallu ymateb yn bwyllog mewn argyfwng, a gallu ymdrin â blaenoriaethau gwaith sy’n gwrthdaro â’i gilydd bob dydd.
  • Wybodaeth dda o hyd am y ddeddfwriaeth, y gyfraith achosion a’r polisïau ym maes tai sy’n berthnasol i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat

Yn ogystal â’r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o’i benodi.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi i weithwyr gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma. 

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa. Oherwydd natur y rôl, bydd angen i chi deithio o fewn Ceredigion yn rheolaidd.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Kat Sokolwska-John on 01970 633 396 neu Katarzyna.Sokolowska-John@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:

Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy