Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 02/11/2026
Cyfeirnod: REQ106942
Mewnol yn unig
7.4 awr / Cyfnod Penodedig
32,578 - 34,811 *
Aberteifi
Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.
Mae cyfle wedi codi i unigolyn brwdfrydig sy’n chwilio am yrfa yn ein Tîm Rhianta a Chymorth i Deuluoedd fel Gweithiwr Teuluoedd.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’r Tîm Rhianta a Chymorth i Deuluoedd wrth i ni barhau i ehangu’r Model Gwasanaethau Integredig Drwy Oedran Lles.
Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau Rhianta a Chefnogaeth I Deuluoedd yn amryw o leoliadau, â chyfarwyddyd gan y Rheolwr TîmRhianta a Chymorth i Deuluoedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod tegwch mynediad a chyfle i oedolion a phlant yn cael ei hyrwyddo.Byddant hefyd yn sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud gydag ymrwymiad i hawliau plant a byddant yn dangos dealltwriaeth o werth chwarae ym mywydau plant.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion i weithwyr, megis cyfleoedd hyfforddi. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Mari.Jefferis@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: