Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Anableddau (Plant)

Dyddiad Cau: 06/05/2024

Cyfeirnod: REQ105010

37 awr / Parhaol

33,024 - 38,223 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn dechrau ar radd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar radd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd.

Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2024.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i’w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw mae’n ei chynnig cliciwch yma.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn trawsnewid y ffordd y bydd unigolion a theuluoedd yn derbyn cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth pan fydd angen y rhain arnynt. Rydym yn datblygu gwasanaethau gydol oed a lles, ffyrdd newydd o weithio ac ystod o fentrau cyffrous a fydd o gymorth i gael cadernid cymunedol ac unigol. Mae hyn hefyd yn golygu ein bod am feithrin gweithlu medrus a hyblyg a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Mae’r Gwasanaeth Cynnal Estynedig yn cael ei ddatblygu dan y model newydd hwn. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn cynnwys tri grup staff:

  • Y Tîm Plant ag Anableddau
  • Y Tîm Cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu
  • Y Tîm Deddf Galluedd Meddyliol

Ein nod ar gyfer y dyfodol yw datblygu gwasanaethau gydol oed cydgysylltiedig gyda phwyslais cryf ar atal ac rydym am baratoi staff i gefnogi plant ac oedolion gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau. O ganlyniad i hyn, mae cyfleoedd cyffrous wedi codi am swyddi gweithwyr cymdeithasol â chymhwyster a heb gymhwyster. Ar hyn o bryd, rydyn yn chwilio am:

  • Weithwyr Cymdeithasol Cymwysedig profiadol
  • Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso
  • Gweithwyr Cymorth (heb gymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol)

Wrth i ni symud ymlaen, bydd y timau cyfredol, penodol i oedran yn uno a bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu gwasanaethau di-dor ac ymestyn gwybodaeth a sgiliau staff. Wrth weithio fel un tîm gofal cymdeithasol byddwn hefyd yn cryfhau ein perthynas ag asiantaethau eraill, megis Iechyd ac Addysg yn ogystal â sefydliadau trydydd sector.

Bydd cyfle hefyd o fewn y Gwasanaethau Cynnal Estynedig i ddatblygu arbenigeddau megis gweithio gydag oedolion neu blant ag awtistiaeth, anableddau dysgu ac anableddau corfforol.

Bydd ymuno â Thîm Ceredigion yn cynnig nifer o gyfleoedd i chi ddatblygu yn broffesiynol, dod â syniadau newydd i’r tîm a chyfrannu’n uniongyrchol at strategaeth y gwasanaeth, gan hyrwyddo’r diwylliant dysgu a myfyrio mewn amgylchedd cefnogol.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â’r swydd hon cysylltwch â Claire James ar Claire.James@ceredigion.gov.uk

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymwysedig)

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cynnal – Gwasanaethau Arbenigol

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:

Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy