Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Cymorth a Hyfforddiant Llesiant Cymdeithasol ac Emosiynol

Dyddiad Cau: 05/05/2026

Cyfeirnod: REQ106592

18.5 awr / Cyfnod Penodedig

28,598 - 30,518 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Dyma gyfle gwych, yn ystod y tymor yn unig, i ymuno gyda Thîm Rhianta a Chefnogaeth I Deuluoedd yng Ngheredigion a gwneud cyfraniad pwysig at fywyd teuluoedd a phlant.

Teitl y swydd yw Swyddog Cymorth a Hyfforddiant Llesiant Cymdeithasol ac Emosiynol.

Byddwch ynglwm ag ardaloedd Dechrau’n Deg Ceredigion ac yn cydweithio’n agos gyda staff sy’n darparu cyngor a chefnogaeth I leoliadau Gofal Plant Dechrau’n Deg a’r tîm ehangach – gan gynnwys staff o asiantaethau eraill – statudol a gwirfoddol.

Eich nôd fydd i gefnogi plant o oed cyn-ysgol gael cyfle i ddatblygu drwy fynychu gofal plant o safon uchel a datblygu eu sgiliau iaith.

Bydd disgwyl i chi gynnig cyngor ac arweiniad i feithrinfeydd a gwarchodwyr er mwyn gwella safon eu darpariaeth ac ymarfer.

Byddwch hefyd yn monitro safon ac yn cynnig hyfforddiant i leoliadau gofal plant gan sicrhau gwell deilliannau i blant a’u cefnogi o un lleoliad i’r llall.

Oherwydd gofynion y rôl mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach. Mae gwybodaeth am ddysgu neu wella’r Gymraeg i’w chael yma.

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i’ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Gail MacDonald / gail.macdonald@ceredigion.gov.uk neu Mari Jefferis/ Mari.jefferis@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:

Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy