Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Hyfforddwr Gweithgaredd Corfforol a Chwarae

Dyddiad Cau: 29/05/2026

Cyfeirnod: REQ106646

Mewnol yn unig

37 awr / Cyfnod Penodedig

26,403 - 27,694 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae cyfle wedi codi yn Gwasanaeth Canolfannau Lles i benodi aelod o staff i rôl Hyfforddwr Gweithgaredd Corfforol a Chwarae.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig ac yn egniol gyda phrofiad perthnasol yn y sector gweithgaredd corfforol a chwarae gydag sgiliau cyflwyno a chymunedu da.

Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher 3ydd Mehefin a bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r Hyfforddwr Gweithgaredd Corfforol a Chwarae fydd;

  • Bod yn gyfrifol am ddarparu sesiynau gweithgaredd corfforol a chwarae yn y rhaglen Awdurdod Lleol.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ddarparu sesiynau canolog ar gyfer cyhoeddiadau penodol.
  • Sicrhau diogelwch a lles pob defnyddiwr a chymryd rhan bob amser ac yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor.
  • Cymryd rhan yn darpariaeth gynhwysol ledled y sir.
  • Sicrhau bod pob gweithgaredd a gweithrediadau wedi’u gwireddu yn unol â gweithdrefnau gweithredu a pholisi Iechyd a Diagelwch
  • Bod yn hyblyg o ran oriau Gwaith.
  • Bod yn ambasador bob amser ar gyfer Gwasanaeth y Ganolfan Les / Porth Cymorth Cynnar a Chyngor Ceredigion, trwy gynorthwyo cyfathrebu ac/neu gysylltiad gyda staff yn adrannau gwasanaeth, rheolwyr uwch, Aelodau Lleol, aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau eraill.
  • Mynd i hyfforddiant a chymryd rhan yn eu datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain.
  • Cael gwybodaeth a dealltwriaeth dda o dueddiadau’r diwydiant yn gysylltiedig â chynlluniau, rhaglenni a dosbarthiadau Newydd.
  • I dderbyn unrhyw ddyletswyddau a gweithgareddau eraill a fydd yn cael eu dyrannu.

I gael gwybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.

Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu mi yn uniongyrchol ar: 07483953592 neu Matthew.Roebuck2@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:

Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy