Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Tai – Y Gofrestr Tai

Dyddiad Cau: 05/08/2026

Cyfeirnod: REQ106800

37 awr / Parhaol

26,403 - 27,694 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Tai – Y Gofrestr Tai i ymuno â’n Gwasanaeth Tai.

Bod yn gyfrifol am weinyddu’r Gofrestr Tai Cyffredin, gan gynnwys rhoi cyngor i’r rheini sy’n gwneud cais am dai, ac asesu ceisiadau am dai yn unol â’r polisïau a’r ddeddfwriaeth.

Sicrhau bod y Gofrestr Tai yn gweithredu’n effeithlon, gan gynnwys y weithdrefn enwebu yn ôl y gofyn.

O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • Ymchwilio i geisiadau a’u hasesu i sicrhau bod modd cyflawni dyletswyddau’r gwasanaeth tai yn unol â’r polisïau a’r ddeddfwriaeth, a hynny o dan arweiniad yr Uwch-swyddog Tai
  • Darparu cyngor a chymorth i’r cyhoedd yn y maes gwaith
  • Cyfathrebu’n broffesiynol ac yn empathetig â’r cyhoedd, gan roi gwybod iddynt am hynt eu ceisiadau a rhoi cyngor pellach iddynt
  • Cydweithio â rhannau eraill o’r gwasanaeth tai i sicrhau bod gwasanaeth integredig ac effeithlon yn cael ei ddarparu

Rydym am recriwtio unigolyn:

  • Unigolyn disgybledig â chymhelliad cryf
  • Gallu defnyddio sgiliau dadansoddi i asesu’r dulliau o weithio, i gasglu gwybodaeth, ac i wneud penderfyniadau
  • Ymrwymiad i roi polisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ar waith
  • Ymrwymiad cadarn i ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd
  • Sgiliau TG da
  • Ymrwymiad y gellir ei ddangos i ofalu am gwsmeriaid, ynghyd â natur gyfeillgar a pharodrwydd i helpu
  • Gallu cadw gwybodaeth gyfrinachol
  • Sgiliau cyfathrebu da

Yn ogystal â’r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o’i benodi.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Cerys Purches-Phillips, cerys.purches-phillips@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:

Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy