Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Ieuenctid x 2

Dyddiad Cau: 30/07/2026

Cyfeirnod: REQ106783

37 awr / Cyfnod Penodedig

31,537 - 33,699 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Lleoliadau ar draws Ceredigion

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar adeg gyffrous o ddatblygiad. Dyma gyfle i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi pobl ifanc ar draws Ceredigion i ddatblygu hyder, meithrin sgiliau newydd, a manteisio ar gyfleoedd cadarnhaol yn eu cymunedau.

Y Rôl

Fel Gweithiwr Ieuenctid, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc mewn amryw o leoliadau, gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chreu cyfleoedd iddynt ffynnu. Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy’n darparu gwasanaeth ieuenctid modern sy’n canolbwyntio ar y gymuned, ac sy’n rhoi gwerth ar gynhwysiant, cyfranogiad a lles.

Amdanoch Chi

Rydym yn chwilio am bobl sydd:

  • Yn angerddol am gefnogi pobl ifanc
  • Yn gallu meithrin perthnasoedd cryf a chadarnhaol
  • Yn frwdfrydig, hyblyg ac yn greadigol
  • Yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm
  • Yn weithiwr cymorth ieuenctid neu’n weithiwr ieuenctid cymwys a phrofiadol, neu’n gallu dangos ymrwymiad i ddatblygiad gweithlu

Beth Rydym yn ei Gynnig

  • Rôl werth chweil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc
  • Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygu a symud ymlaen
  • Trefniadau gweithio hyblyg a phecyn buddion gweithwyr cryf
  • Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:

Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy