Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Dyddiad Cau: 15/11/2026

Cyfeirnod: REQ106966

Mewnol yn unig

37 awr / Cyfnod Penodedig

29,542 - 31,525 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.

Ydych chi’n frwd dros helpu teuluoedd i gael gafael ar yr wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu?

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am Swyddog Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd brwdfrydig a llawn cymhelliant i arwain y gwaith o ddarparu a datblygu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) ledled y sir.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at wybodaeth gywir, ddiduedd a chyfredol am ofal plant, gwasanaethau blynyddoedd cynnar, cymorth i deuluoedd, addysg, iechyd ac adnoddau cymunedol. Bydd y rôl yn ganolog i gefnogi’r gwaith parhaus o ehangu gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru a sicrhau bod teuluoedd yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

O ddydd i ddydd, byddwch yn:

  • Cydlynu a darparu Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Ceredigion.
  • Gweithio ar y cyd ag adrannau eraill o fewn yr Awdurdod Lleol a sefydliadau eraill i sicrhau bod ystod eang o wybodaeth ar gael i deuluoedd.
  • Ymateb i ymholiadau gan rieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau partner.
  • Datblygu a rhannu gwybodaeth am ofal plant, cymorth i deuluoedd a gwasanaethau cymunedol.
  • Rheoli gwybodaeth a gyhoeddir drwy wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a llwyfan Dewis Cymru.
  • Hyrwyddo rhaglenni gofal plant a ariennir a chefnogi teuluoedd i gael mynediad at y gwasanaethau sydd fwyaf addas i’w hanghenion.
  • Cefnogi dyletswyddau statudol a chyfrannu at weithgareddau cynllunio strategol, gan gynnwys gwaith digonolrwydd gofal plant.
  • Monitro perfformiad y gwasanaeth a llunio adroddiadau a gwybodaeth i gefnogi datblygiad y gwasanaeth.

Ein hymgeisydd delfrydol

Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn sydd:

  • Â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid o ansawdd uchel.
  • Â phrofiad o weithio gyda phlant, teuluoedd, cymunedau neu wasanaethau cymorth.
  • Yn gallu rheoli gwybodaeth yn effeithiol a chadw cofnodion cywir.
  • Â sgiliau digidol a gweinyddol da.
  • Yn gallu gweithio ar y cyd ar draws adrannau, sefydliadau a gwasanaethau.
  • Yn rhannu ein hymrwymiad i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd drwy atal ac ymyrryd yn gynnar.

Oherwydd gofynion y rôl mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach. Mae gwybodaeth am ddysgu neu wella’r Gymraeg i’w chael yma.

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma. 

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa. Oherwydd natur y rôl, bydd angen i chi deithio o fewn Ceredigion yn rheolaidd.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Mari Jefferis/ Iwan Davies ar Mari.Jefferis@ceredigion.gov.uk/ Iwan.Davies4@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:

Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy